SL(5)384 - Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) (Diwygio) (Cymru) 2019

Cefndir a Diben

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) 1992 (O.S. 1992/558) (“Gorchymyn 1992”).

Nid yw’r dreth gyngor yn daladwy mewn perthynas ag anheddau esempt (adran 4 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14)). Mae dosbarthau o anheddau esempt wedi eu rhagnodi yng Ngorchymyn 1992.

Mae’r Gorchymyn hwn yn mewnosod Dosbarth X newydd yng Ngorchymyn 1992. Mae hyn yn esemptio anheddau yng Nghymru—

·          sydd wedi eu meddiannu gan un neu ragor o bobl sy’n ymadael â gofal, a

·          lle y mae pob preswyliwr naill ai’n berson sy’n ymadael â gofal, neu’n berson perthnasol o fewn y diffiniad yn Nosbarth N o Orchymyn 1992 (myfyrwyr etc.), neu’n berson sydd â nam meddyliol difrifol.

Mae’r Gorchymyn hwn yn diffinio’r term “care leaver” gan gyfeirio at berson ifanc categori 3, fel y’i diffinnir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4).

Gweithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2(v) - bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Rydym yn cwestiynu a allai'r Gorchymyn achosi dryswch o ran oedran y sawl sy'n ymadael â gofal fel y'i diffinnir yn y Gorchymyn. Mewn perthynas ag oedran, mae'r Gorchymyn yn diffinio “care leaver” fel person “aged 24 or under”.

Byddem yn ddiolchgar am eglurhad ynghylch yr ystod oedran y bwriedir i'r Gorchymyn hwn fod yn berthnasol iddi a beth yw ystyr “aged 24 or under”. A yw'n cynnwys person sy'n 24 oed a 364 diwrnod? Rydym yn tybio ei fod, ond mae ein pryder yn deillio o'r ffaith bod deddfwriaeth arall yn defnyddio iaith fwy penodol wrth gyfeirio at ystod oedran.

Er enghraifft, mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn diffinio plentyn fel “person dan 18 oed” ac mae'n diffinio person ifanc categori 6 fel person “sydd heb gyrraedd 21 oed eto.” Yn ein barn ni, mae pob un o'r rhain yn fwy manwl na dweud “aged 24 or under”, a gallai dweud “under 25” yn lle hynny osgoi unrhyw ddryswch (yn enwedig gan fod y Memorandwm Esboniadol yn gwneud sawl cyfeiriad at bersonau dan 25 oed). Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 hefyd yn defnyddio iaith fel plentyn “sy’n 16 neu’n 17 oed”.

Nodwn fod yr un materion yn codi mewn offeryn cysylltiedig arall, felly rydym yn ei godi yn y Gorchymyn hwn ar ran y ddau offeryn.

Rhinweddau: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb gan y Llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

20 Mawrth 2019